Cymru 2-1 Azerbaijan.

Croeso i drydydd blog fy nghyfres Gymraeg ar dîm dynion Cymru. Os liciwch chi, fedrwch chi ddarllen fy mlog cyntaf am y tîm merched Cymru efo parallel.cymru, at https://parallel.cymru/blog-pel-droed/. Fel bob amser, rhaid i mi fod yn glir – dw i dal yn dysgu Cymraeg, ond os gwelwch chi gamgymeriadau, neu os ydach chi’n gwybod sut i ddweud y geiriau yn Saesneg, fedrwch chi ddweud wrtha i yn y sylwadau. Dw i isio sgwennu yn yr iaith Gymraeg i helpu dysgwyr arall i deimlo’n hyderus i siarad am bêl-droed yn yr iaith, ond hefyd i roi rhywbeth i siaradwyr rhugl i ddarllen a mwynhewch. Os liciwch chi ddarllen y blog Saesneg, fedrwch chi yma.

Roedd Gymru chwarae efo’r un siâp ag arfer – 1-4-4-1-1/1-4-2-3-1 (Hennessey; C. Roberts, Mepham, Rodon, N. Taylor; Allen, Ampadu; Bale, Wilson, James; T. Lawrence). Fedrwch chi weld Cymru amddiffyn yn eu 4-2-3-1 siâp isod. Roedd Cymru presio’n uchel, ceisiasant ddechrau yn gyflym o’r blaen mae’r tîm oddi cartref wedi medru setlo.

Ar ôl y gêm, weles i lawer o bobl gofyn cwestiynau am Ryan Giggs, oherwydd doedden nhw ddim yn medru gweld y cynllun tactegol. Ond i fod yn deg, dydy lawer ddim wedi newid ar draws y gemau Gymru yn 2019. Dydy o ddim yn deg i ddweud bod nid oes gan Ryan Giggs gynllun. Yn y blog hwn, dw isio rhoi trosolwg gynllun Gymru, a wedyn fedrwch chi deimlo’n rhydd i benderfynu sut ydach chi’n teimlo am y cynllun.

Yn aml, mae Cymru yn chwarae allan o’r cefn fel isod, efo’r ballside (unrhyw un gwybod ffordd i ddweud hwn yn y Gymraeg?) chwaraewr canol cae fel opsiwn yn fyr am yr right-centre amddiffynnwr (Chris Mepham yma). Mae hyn yn caniatáu’r amddiffynnwr de, Connor Roberts, i symud uchel yn y sianel ochr dde, ar yr ochr arall y canol cae Azerbaijan. Ar yr un amser, mae’r chwaraewr canol cae arall aros yn y canol ac mae’r amddiffynnwr chwith aros yn ôl yn yr hanner gofod chwith. Dw i wedi siarad yn blogiau arall am hwn.

Pan mae Joe Allen yn cymryd y bêl a dechrau symud ymlaen, gallwn ni weld beth mae Cymru isio gwneud o’r blaen ohono fo yn y llun nesaf. Roedd Allen pasio’r bêl i Tom Lawrence, pwy sy’n wedi dropio’n fyr, tra mae Gareth Bale ydy yn yr hanner gofod de, a Harry Wilson, fel “10” y tîm, ydy yn yr hanner gofod chwith. Mae Connor Roberts yw off-screen yn y sianel ochr dde, efo Daniel James off-screen yn y sianel ochr chwith. Mae hon yn enghraifft gyffredin o positional play Cymru.

Nesaf, fedrwch chi weld enghraifft o batrwm y mae Cymru yn ei ddefnyddio. Mae’r llinell goch yn dangos y rhedeg Joe Allen ac mae’r llinell wyrdd yn dangos llwybr y bêl.

Tynnais y diagram hwn i ddangos rhan arall o’r positional play Cymru yn y gêm yn erbyn Trinidad a Tobago ym mis Mawrth. Mae’r saethau du yn dangos y bas i Neil Taylor, pwy sy’n gwneud pas in-behind yr amddiffynnwr de Trinidad a Tobago am Ryan Hedges. Mae Hedges yn dropio’n ôl o’r blaen gwneud y rhedeg in-behind am y bas. Roedd Cymru defnyddio’r un syniad yn erbyn Slofacia, gyda Ben Davies a Daniel James. Ers hynny, mae timau wedi dysgu a dydyn nhw ddim gadael gofod in-behind i James ar y chwith.

Hefyd, roedd Azerbaijan cadw eu hasgellwr de yn uchel i bresio Neil Taylor yn gynnar. Roedden nhw’n chwarae efo dau amddiffynnwr de – un sy’n dilyn Harry Wilson yn yr hanner gofod chwith Gymru. Oherwydd o hyn, roedd yr amddiffynnwr de arall Azerbaijan rydd i jyst amddiffyn yn erbyn James (pwy sy’n uchod y llinell glas isod).

Yn y llun diwethaf ac yn y llun nesaf, fedrwch chi weld y gofod yn fawr iawn yn yr hanner gofod chwith Gymru. Gweld sut mae Taylor ac Ampadu yn pwyntio at y gofod yn yr ail lun.

Roedd gan Gymru broblem achos roedden nhw angen rhywun i symud goalward efo’r bêl ar ôl derbyn yn yr hanner gofod chwith. Mae Harry Wilson yn hoffi symud efo’r bêl i’r chwith, felly roedd yn symudiad da i swapio fo gyda Jonny Williams, pwy sy’n symud y ffordd arall achos mae o’n droed dde.

Diolch am ddarllen y blog – medra i esbonio pethau yn well yn Saesneg, os liciwch chi ddarllen mwy. Gobeithio, mae’n glir bod dw i wedi gwella efo’r iaith Gymraeg  a dw i’n mynd i drio parhau. Ymlaen i’r mis nesaf yn erbyn Slofacia a Croatia…

1 Comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s